google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn wedi marw ar ôl achos o drywanu yng Nghaerdydd

Richards Terrace
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Richards Terrace yn ardal Y Rhath brynhawn Mercher

Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn 68 oed yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu ar Richards Terrace yn ardal Y Rhath tua 17:50 ddydd Mercher.

Fe gafodd y dyn 68 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond bu farw yno.

Dywedodd Heddlu’r De bod dyn 40 oed wedi cael ei arestio yn y fan a’r lle, a’i fod bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth a’i gadw dan y ddeddf iechyd meddwl.

Ychwanegodd y llu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.


BBC News

Advertisements

See also  Voters in Wales to be automatically registered for 2027 council elections

Check Also

24/7 drilling in Cardiff park having ‘major impact’ on residents lives

An around-the-clock drilling operation in a park is having a “major impact” on the lives …

Phil Parkinson: Wrexham had to block outside noise

First goals for the club from Joe Worrall and Ben Whiteman helped Wrexham establish a …

Swansea City 0-1 West Ham: Vitor Matos tells Swans to use defeat as fuel

“I think that’s the most important thing today, that we played against a really good …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime