google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn o Lanelli yn debygol o fod wedi boddi ar noson allan – cwest

Advertisements

Mae cwest wedi clywed ei bod hi’n debygol fod dyn o Lanelli a gafodd ei ddarganfod yn farw ar ôl mynd ar goll ym Mryste wedi boddi.

Clywodd Llys Crwner Avon fod Rehaan Akhtar, swyddog heddlu 28 oed, wedi diflannu yn ystod noson allan gyda’i ffrindiau a’i fod wedi cael ei weld ddiwethaf yn ystod oriau mân 23 Tachwedd.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifwyr yn harbwr y ddinas y bore canlynol.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar y pryd eu bod yn trin y farwolaeth “fel un heb esboniad ond sydd ddim yn amheus”.

Roedd Mr Akhtar wedi bod yn gweithio i Heddlu De Cymru ers Hydref 2021 – gan dreulio cyfnodau yn gwasanaethu yn Abertawe a Chaerdydd.

Yn dilyn archwiliad post mortem fe wnaeth crwner cynorthwyol Avon, Debbie Rookes nodi boddi fel achos marwolaeth dros dro.

Cafodd y cwest ei agor a’i ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.


BBC News

See also  Staff grŵp cymunedol ym Mhen-y-bont yn talu i roi llety i fenywod bregus

Check Also

Bonnie Tyler: Family’s thanks for compassion after funeral

Tyler’s family thanked Only Men Aloud “for the beautiful singing during the service and after”. …

Netball: Reinga Bloxham to take interim charge of Welsh Feathers

LexisNexis Dragons head coach Reinga Bloxham will take charge of Wales for their upcoming Netball …

Carcharu dyn am achosi anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad 140mya

Clywodd y llys fod Max Oliver Ianto Dangerfield, oedd yn 18 oed ar y pryd, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime