google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dyn 33 wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes yn Y Rhyl

Mae dyn 33 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes 69 oed yn Y Rhyl.

Bu farw’r ddynes, na sydd wedi’i henwi, ar ôl iddi gael ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Nos Iau cafodd Heddlu’r Gogledd Cymru eu galw i dŷ ar Ffordd Cefndy yn y dre.

Mae disgwyl i Dean Mark Albert Mears, o Rodfa Bodelwyddan, Bae Cinmel, Sir Conwy, ymddangos ger bron ynadon yn Llandudno ddydd Llun.

Cafodd ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o geisio llofruddio.

Mae dynes 25 oed, sydd wedi’i harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott fod yr ymchwiliad yn parhau ac fe anogodd “unrhyw un sydd â gwybodaeth ac na sydd wedi cysylltu eisoes i wneud hynny”.


Source link

Views: 1

See also  Sir Benfro: Gwerth 17 tancer o ddŵr gwastraff wedi ei ryddhau i afon

Check Also

Estate attracted Rihanna and Justin Bieber – but area's Grade II-listed gem was forgotten

Radio 1’s Big Weekend, the National Eisteddfod and Faenol Festival have all been held on …

Woman serious injured in alleged hit and run

A woman suffers life-changing injuries after being hit by a car in an alleged hit …

Talu am bigiadau colli pwysau yn breifat yn sgil rhestrau aros hir

Ar ôl cael diagnosis yn 25 oed, roedd Hannah o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Transforming lives through purpose driven alignment and strategic mastery.