google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 29 2026

Dyn 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl disgyn o falconi ym Malta

84aa52d0 5f07 11f0 a15e a511f8d34832.png

Mae dyn ifanc 25 oed o Wynedd wedi marw ar ôl iddo ddisgyn o falconi gwesty ym Malta yn gynnar fore Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu ym Malta eu bod nhw wedi cael eu galw i Triq Spinola, St Julien’s tua 4:15 fore Gwener (11 o Orffennaf).

Fe ddigwyddodd y digwyddiad yng ngwesty Cavalieri Art.

Fe wnaeth aelodau’r tîm meddygol gadarnhau y bu farw’r dyn ar y safle.

Ychwanegwyd bod ymholiadau cychwynnol yn awgrymu bod y dyn ifanc wedi marw ar ôl iddo ddisgyn o falconi.

Mewn datganiad dywedodd Sian Gwenllian, aelod o’r senedd dros Arfon: “Mae’r newyddion am farwolaeth dyn 25 oed o Wynedd ym Malta yn wirioneddol erchyll.

“Mae’n gwbl amhosibl dirnad poen y teulu. Rydw innau, ynghyd â gweddill pobl Gwynedd yn meddwl amdanynt yn eu galar”.

Mae’r ymchwiliad ym Malta i’r farwolaeth yn parhau.


BBC News

Advertisements

See also  Welsh first minister Eluned Morgan 'part of Labour's new generation'

Check Also

Cwpl o Gaerdydd yn gadael ‘bywyd prysur a chyffrous’ i ffermio ar Ynys Enlli

Mae’r heriau y bydd y cwpl yn eu wynebu yn eu bywyd newydd ar yr …

New Cluedo 50p coin unveiled by Royal Mint

Lewis said her parents created the game during World War Two in their home in …

Jac Northfield: Dim Byd fel gwneud comedi

Roedd Jac a Gwion eisioes wedi bod yn gwneud eitemau byr doniol i Hansh S4C …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime