google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dydi Arlo ddim yr un plentyn wedi i feiciwr modur ei daro a ffoi’

Advertisements

Mae’n anodd, medd Mr Buckley, ddod i delerau â meddwl bod Kylam Longhurst a’i deulu’n ceisio cuddio’i ran yn y gwrthdrawiad tra bod Arlo mewn uned gofal brys.

“Aethon nhw â fo i Gaerefrog, llosgi dillad, cuddio’i feic modur… hyn oll tra mae fy mab mewn gwely gofal dwys,” meddai.

Plediodd Longhurst yn euog i gyhuddiad o yrru’n beryglus o ran y gwrthdrawiad, ond fe wadodd o a thri diffynnydd arall – gan gynnwys ei fam, Terry Follows, 42, – fod yn rhan o gynllwyn i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ddydd Gwener, fe gafwyd Longhurst, Follows, a Shane Hunt – cyn-gymar Cara Haran, chwaer hŷn Longhurst – yn euog o’r cyhuddiad hwnnw.

Roedd Haran eisoes wedi pledio’n euog i’r un cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol.

Dyfarnodd y llys bod brawd Longurst, Dane Longhurst, yn ddieuog.

Mae’r barnwr wedi rhybuddio ei fod yn anochel y bydd Kylam Longhhurst, ag yntau’n 16 oed adeg y gwrthdrawiad, yn treulio cyfnod mewn sefydliad troseddwyr ifanc pan fydd yn cael ei ddedfrydu.

Dywed y teulu Buckley mai eu blaenoriaeth nawr yw sicrhau’r gefnogaeth arbenigol angenrheidiol i Arlo.


BBC News

Views: 1

See also  Man crashed speedboat into a 15-year-old kayaker in Milford Haven

Check Also

Miriam Margolyes says being born Jewish has affected her whole life

“My friends and my relatives in Golders Green and Dollis Hill and Radlett and St …

Zain Ul Hassan: All-rounder extends Glamorgan stay

Glamorgan all-rounder Zain Ul Hassan has signed a contract extension at the club until the …

London driver jailed after Cwmbran getaway attempt while handcuffed

Body cam footage has captured a man attempting to drive away from police officers while …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Go beyond simple links with powerful features designed for creators.