google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dwy chwaer wedi boddi mewn pyllau yn Nant Gwynant, Eryri

Advertisements

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 21:31 ar y noson yn dilyn adroddiadau bod un ddynes wedi cael ei thynnu o un o’r pyllau ar Lwybr Watkin, a bod dynes arall yn dal yn y dŵr.

Clywodd agoriad y cwest bod Hajra a Haleema Zahid wedi eu cadarnhau yn farw awr yn ddiweddarach, cyn y gallen nhw gael eu cludo i’r ysbyty.

Cafodd y chwiorydd eu geni yn Rawalpindi ym Mhacistan, ond roedden nhw yn byw yn Rotherham yn Sir De Efrog ac yn astudio graddau meistr mewn Busnes Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caer.

Dywedodd y crwner cynorthwyol Sarah Riley eu bod wedi teithio i ardal Nant Gwynant gyda ffrindiau o’r brifysgol.

Dangosodd archwiliad post mortem bod y ddwy wedi boddi.

Dywedodd y crwner y byddai’n gohirio’r cwest wrth i’r ymchwiliadau barhau.

“Rwy’n anfon fy nghydymdeimlad i’w teulu, ffrindiau a phawb oedd yn eu hadnabod a’u caru,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Ryan Reynolds and Wrexham players celebrate after promotion

Check Also

We'll tackle Wales' status as a low-pay hotspot, first minister tells unions

Rhun ap Iorwerth is already facing demands for better pay from some unions, particularly in …

GP contracts worth £10m awarded without proper checks

An Audit Wales investigation found the health board failed to carry out proper due diligence …

Diogelu rhag troseddau ‘yn mynd ymhellach na giât at y fferm’

Mae pobl mewn ardaloedd cefn gwlad yr un mor debygol o ddioddef troseddau seibr â …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
We look forward to serving you ! hcmfx.