google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Diogelu rhag troseddau ‘yn mynd ymhellach na giât at y fferm’

Advertisements

Mae pobl mewn ardaloedd cefn gwlad yr un mor debygol o ddioddef troseddau seibr â thrigolion trefi a dinasoedd.

Dyna un o negeseuon digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn Sir Ddinbych nos Iau ar gyfer ffermwyr, perchnogion busnesau gwledig, tirfeddianwyr a phobl sy’n ymwneud â’r economi wledig.

Nod y digwyddiad yn Neuadd y Dref Rhuthun yw rhoi cyngor ac arweiniad ar gamau i bobl warchod eu hunain rhag troseddau ar ffermydd – yn uniongyrchol ac ar-lein.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, sy’n trefnu’r digwyddiad gydag elusen Tir Dewi a Swyddfa Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, mae busnesau cefn gwlad a ffermydd yn cael eu targedu fwyfwy gan sgamiau digidol cymhleth – o dwyll anfonebau i ladrad offer.

“Tydy troseddwyr seibr na sgamwyr ar-lein ddim yn cymryd unrhyw sylw o ffinia’ trefol,” dywedodd y Cwnstabl Dewi Owen o dîm troseddau seibr y llu ar raglen Dros Frecwast.

“Er bod cefn gwlad Cymru yn le diogel i fyw ynddo fo ac efo lefela’ trosedd eitha’ isel, ma’ rhywun yng nghefn gwlad yn gallu cael eu targedu jest yr un peth efo trosedd seibr neu dwyll ar-lein â rhywun yng Nghaerdydd neu Wrecsam neu Manceinion.”


BBC News

Views: 0

See also  Athro'n cael 'nosweithiau di-gwsg' ers trywanu Ysgol Dyffryn Aman

Check Also

I became homeless when I was 16 – I didn't think I'd survive

Becoming homeless at the age of 16 is something Freya never imagined would happen. BBC …

Paralysed lamb on wheels and crime crackdown

Review the front page stories from daily newspapers in Wales. BBC News Views: 1 Khamrah …

Kiran Carlson: Glamorgan skipper signs two-year contract extension

“The club are in a really exciting period and as captain I can’t wait to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Q&a tutorial forum on bible quiz and christian religious knowledge.