google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dros £1,000 o iawndal i ddyn wnaeth gwyno am sŵn mewn parc

Mae BBC Cymru wedi siarad gyda’r person gwynodd am y sŵn.

Mae e’n dweud ei bod hi wedi bod yn broblem ers deng mlynedd a bod gorfod gofyn i bobl fod yn dawel bob awr o’r dydd yn cael effaith ar ansawdd ei fywyd.

Fe gafodd lefel y sŵn ei fesur fel rhan o’r gwyn.

Fe ddangosodd y gwaith hwnnw fod pêl yn bwrw’r gôl metel yn cyrraedd 90 desibel. Roedd cicio pêl neu bêl yn taro’r concrit yn cyrraedd 60 desibel, tua’r un lefel a sŵn drws car yn cau’n glep.

“Ers y dechrau,” meddai, “ro’n i am geisio datrysiad na fyddai’n effeithio ar allu plant i chwarae nac yn effeithio ar drigolion eraill fel mae e wedi effeithio arnom ni. Mae ‘na ddatrysiad nawr ar y gweill mewn safle mwy addas a chydag offer gwell”

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw wedi sicrhau arian ar gyfer lle chwarae newydd.

“Fe fyddwn ni’n dechrau ymgynghori gyda phlant ysgol a’r gymuned ehangach cyn bo hir er mwyn ceisio datrys y broblem sŵn a darparu cyfleusterau gwell i’r gymuned cyn gynted a bo modd. Yn y cyfamser ry’ ni’n cydymffurfio gydag argymhellion yr Ombwdsmon.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Betsi Cadawaldr: Woman died after 23-hour ambulance wait

Check Also

Junior World Championship: Wales name side for key South Africa fixture

They opt for six forwards on the bench, including Bath number eight Alex Ridgway after …

Skipper Parfitt leads Glamorgan to victory against Worcestershire

Khurana survived an early scare when Katie Cobb spilled a chance off Gemma Porter, but …

Nations Championship: Wales Aaron Wainwright will return to scene of first cap in San Juan

Wainwright will be buoyed by winning at the Cardiff City Stadium after being involved with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
How south african freelancers are using ai to work smarter. el obeid : explosions are heard.