google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Tuesday , September 15 2026

Diwedd cyfnod i wardeiniaid Ynys Enlli

Advertisements

Ar ôl blynyddoedd yn byw ar Enlli, mae Mari ac Emyr wedi addasu i fywyd gwahanol iawn, gan hefyd fagu eu merch fach dair blwydd oed, Lleucu ar yr ynys. Does dim signal ffôn, toiledau compost yn unig sydd yno ac mae ganddyn nhw eu system ddŵr a phŵer eu hunain.

“Mae yna ddau beth yn wir am Enlli drwy’r adeg,” eglurodd Mari.

“Ar un llaw ti’n gallu bod yn hollol annibynnol a medru cynnal eich hunain ond ar y llaw arall ti’n hollol ddibynnol ar dy gymuned ac ar Colin a’i gwch i ddod â bob dim.

“Mae’n lle cyfoethog, cymhlath, mae’n fyd yn ei hun, nid yn fan gwyn fan draw.”

Dychwelyd i Ddyffryn Nantlle lle magwyd Mari yw’r bwriad ar ôl gadael yr ynys, fydd yn gwneud ailaddasu yn haws, yn ôl Mari:

“Dydi o ddim fel symud yn ôl i rhyw ddinas, mi fyddwn ni yn agos at lynnoedd a mynyddoedd.”

Ond beth fydd Mari’n hiraethu amdano fwyaf ar ôl dros chwe blynedd ar Ynys Enlli?

“Bod mor agos at y môr, dwi’n hannar morlo erbyn ‘wan, a’r gallu i nofio mewn bioluminescence o dan y sêr.”


BBC News

See also  The history behind the QR code

Check Also

Gyrrwr a laddodd athletwraig Team GB i gael ei alltudio i Rwmania

Symudodd Barbu i Brydain yn 2002 gan weithio fel cogydd yn nhafarn yr Old Pandy …

Heddwas wnaeth ddyrnu dyn wedi defnyddio ‘grym afresymol’ – gwrandawiad

Ym mis Mai 2023, cafodd yr heddlu eu galw i Borthmadog yn dilyn adroddiad am …

Brendon McCullum wants Kevin Pietersen to challenge methods in coaching role

McCullum said Pietersen was “shocked” when he first called him about “helping us challenge for …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime