google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Disgyblion ar eu colled yn sgil prinder athrawon cyflenwi

Dywedodd Mark Isherwood AS, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus bod safon y cyflenwad athrawon yn hollbwysig.

“Rhaid i ni ddarparu’r ddarpariaeth orau bosibl i gyflenwi absenoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth fel na fydd addysg plant yn dioddef yn ormodol”, meddai.

Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i wella’r sefyllfa ond bod cynnydd yn rhy araf a bod diffyg monitro yn golygu nad oes modd asesu os yw’r newidiadau’n llwyddiannus ai peidio.

“Mae’n bwysig nodi yr hoffai’r pwyllgor weld y ‘pwll cyflenwi cenedlaethol’ a drafodwyd ers tro yn cael ei wireddu’n genedlaethol a bod pob athro cyflenwi yn gallu manteisio ar gyflog uwch, pensiwn a hyfforddiant eu cydweithwyr,” ychwanegodd.

Mae datblygu model cynaliadwy ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi yn un o addewidion rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.

Ond clywodd aelodau’r pwyllgor dystiolaeth bod yna broblemau’n parhau gydag ysgolion yn cyflogi staff heb gymwysterau i wneud gwaith athrawon cyflenwi.

Mae’r pwyllgor yn galw ar y llywodraeth i fonitro hynny a rhoi trefniadau mewn lle i sicrhau bod athrawon cyflenwi, goruchwylwyr llanw a gweithwyr cymorth dysgu yn gweithio o fewn eu disgrifiadau rôl.


Source link

See also  Lily Jones: Mum blows kiss to son, 14, charged with murder of girl

Check Also

Billy Boston funeral to take place

At the request of the Boston family, people attending are being encouraged to wear traditional …

James Taylor aims to make Wales a force in deaf football

Wales – like England – are hoping to send a squad to compete in the …

Cyflwr iechyd plant Cymru yn ‘frawychus ac yn gwaethygu’

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Mae iechyd plant yn bwysig ofnadwy, a byddwn yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime