google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Disgwyl i Senedd Cymru gymeradwyo treth twristiaeth £1.30 y noson

7f2ae660 5b4e 11f0 a40e a1af2950b220.jpg

Advertisements

Yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, mae’r ffordd y mae’r gyfraith wedi cael ei llunio yn golygu na fydd rheidrwydd ar gynghorau i wario’r arian ar dwristiaeth.

Dywedodd Suzy Davies o Grŵp Twristiaeth Canolbarth Cymru fod yr ardoll “ddim yn dreth ar dwristiaid rhagor” gan y byddai’n berthnasol i “unrhyw ymwelydd i lety gwyliau am unrhyw reswm”.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllid, Sam Rowlands yn dweud y byddai’r cynlluniau “yn niweidio’r economi ac yn arwain at golli miliynau o bunnau a channoedd o swyddi bob blwyddyn”.

Yn ôl Luke Fletcher o Blaid Cymru, fe fyddai’r gyfraith yn rhoi cyfle i gynghorau “ddechrau ar y siwrnai tuag at sector dwristiaeth sy’n gweithio i fusnesau a thwristiaid”.

Dywedodd Reform UK y byddai treth o’r fath yn “niweidio busnesau lleol ac yn arwain at golli swyddi yng nghefn gwlad”.

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn dweud “eu bod yn credu ei bod hi’n deg fod ymwelwyr yn cyfrannu tuag at gyfleusterau lleol, a seilwaith a gwasanaethau sy’n ganolog i’w profiad nhw”.

“Mae ardollau ar ymwelwyr yn gyffredin o amgylch y byd, yn dod a buddion i gymunedau lleol, twristiaid a busnesau – ac rydyn ni am weld yr un peth yng Nghymru.”


BBC News

Views: 0

See also  O Ddulyn i Canberra: Darlledu'r Gymraeg o dramor ddim yn newydd

Check Also

National identity 'undermined' by replacing Welsh with English names on maps

Councillor Einir Wiliams hits out at Ordnance Survey for using names with “no basis in …

My postpartum body should not be a talking point on social media

Mum-of-two Cat Jane says some social media followers have “bullied” her post-baby body. BBC News …

‘Braint fy mywyd’: ASau yn ethol Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog

Wrth annerch y Senedd, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai “braint fy mywyd i yw cael …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Working with diffusion models, including higgsfield ai, seedance, grok, hailuo ai, and kling ai. Just a moment.... Global news network.