google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad ym Môn

Advertisements

Mae dyn wedi cael arestio ar ôl i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad gyda char ar Ynys Môn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025 yn Llanfachraeth am 18:57 nos Fawrth.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Jaguar I-Pace llwyd a beic modur Triumph gwyn.

Bu farw’r dyn oedd yn gyrru’r beic modur yn y fan a’r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys.

Cafodd dyn ei arestio yn y fan a’r lle ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.

Dywedodd y Sarjant Alun Jones o’r Uned Plismona’r Ffyrdd fod ymchwiliad yn cael ei gynnal i amgylchiadau’r gwrthdrawiad.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â lluniau teledu cylch cyfyng, dashcam neu o gamera cloch drws, i gysylltu â nhw.


BBC News

Views: 0

See also  Cyfle i glwb rygbi ddathlu yn dilyn effaith 'torcalonnus' Storm Bert

Check Also

Pryd a ble fydd modd gweld diffyg ar yr haul yng Nghymru?

Mae Dr Cai Stoddard Jones, sydd â doethuriaeth yng Ngwyddor Comedau ac Addysg Comedau, yn …

I share my house with a Terminator, Kung Fu Panda and 30 other life-sized props

Martin rents a one-bedroom-flat, but you would not say he lives alone. BBC News Views: …

European Athletics Championships 2026: GB’s Romell Glave and Jeremiah Azu achieve superb 100m one-two

Just 24 hours after Amy Hunt celebrated her crowning moment in the women’s 100m, Glave …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
How to choose a hosting provider : 12 essential questions. elfbar elfa kit. elfbar elfx kit silver pink.