google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 3 2026

Disgwyl i Eluned Morgan enwi cabinet Llywodraeth Cymru

Fe wnaeth pedwar aelod o gabinet Llywodraeth Cymru adael ym mis Gorffennaf er mwyn gorfodi Gething i ymddiswyddo.

Yn ogystal â’r cyn-ysgrifennydd economi Jeremy Miles, roedden nhw’n cynnwys yr ysgrifennydd newid hinsawdd Julie James, yr ysgrifennydd diwylliant a chyfiawnder cymdeithasol Lesley Griffiths, a’r cwnsler cyffredinol Mick Antoniw.

Daeth Morgan yn arweinydd Llafur Cymru ar yr addewid y gallai ddod â grŵp rhanedig Llafur yn y Senedd yn ôl at ei gilydd.

Cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad ar ôl i Miles benderfynu peidio â sefyll am yr arweinyddiaeth.

Roedd cefnogwyr Gething wedi rhoi’r bai ar Miles am rai o’r rhaniadau yn y grŵp.

Dywedodd beirniaid Gething fod y bai ar y cyn-brif weinidog ei hun, a’i benderfyniad i gymryd rhodd o £200,000 i ymgyrch ei arweinyddiaeth gan ddyn a gafwyd yn euog o ddympio gwastraff yn anghyfreithlon.


Source link

See also  Euro 2025: England and Wales prepare for battle of the home nations

Check Also

WRU staff safer after culture changes, says watchdog

Rugby players, coaches and staff are now safer working at the Welsh Rugby Union (WRU) …

Wrexham AFC opens Colliers Park pavilion without planning permission

Meanwhile, Natural Resources Wales questioned the project’s sewage and drainage plans. After reviewing the proposals, …

Dim apwyntiadau dilynol ar ôl triniaeth i geisio lleihau rhestrau aros

Dywedodd llefarydd iechyd Reform yn y Senedd, James Evans: “Mae rhestrau aros y GIG yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime