google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Dim modd osgoi’ gwrthdrawiad a laddodd seiclwr ar yr A5

27087500 34c6 11f0 96c3 cf669419a2b0.jpg

Dywedodd Ms Williams wrth y gwrandawiad yn Rhuthun: “Doedd dim fyddai wedi gallu rhwystro’r gwrthdrawiad rhag digwydd – dwi’n meddwl amdano pob diwrnod.”

Dywedodd ei bod yn amcangyfrif ei bod yn gyrru rhwng 50 a 55mya ar y pryd, mewn ardal gyda therfyn cyflymder o 60mya.

Cafodd Ms Williams ei harestio yn dilyn y digwyddiad, ond fe gafodd ei rhyddhau yn ddi-gyhuddiad ar ôl cael ei chyfweld.

Roedd profion wedi’r digwyddiad yn dangos ei bod o dan y terfyn yfed a gyrru.

“Fyswn i’n dymuno gallu newid yr hyn ddigwyddodd, ond dwi methu,” meddai.

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd modurwyr eraill bod Mr Fanning yn gwisgo dillad tywyll ac nad oedden nhw wedi gweld golau ar gefn ei feic.

Daeth y crwner John Gittins i gasgliad fod Mr Fanning wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.

Dywedodd fod y dillad tywyll yr oedd Mr Fanning yn gwisgo wedi golygu ei fod yn llai gweledol i yrwyr.


BBC News

Advertisements

See also  Tenor yn ennill gwobr newydd yn enw Syr Bryn Terfel

Check Also

Aberfan: Atgofion y gweinidog a’r disgybl ysgol fu yno

Roedd Bodfan Jenkins yn yr ysgol pan sylweddolodd fod rhywbeth difrifol wedi digwydd. “Oedd rywbeth …

Gwleidydd Reform yn defnyddio sbectol clyfar i wneud areithiau yn y Senedd

Mae nifer o bryderon ynghylch defnyddio’r dechnoleg – yn enwedig sbectolau sydd â chamera ac …

Mari Grug: Cyngor ar sut i drafod canser gyda phlant

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Mari: “[Wnaeth e] …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime