google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Difrod bwriadol i gloc tref Llanbed yn ‘siom enbyd’ i’r cyngor tref

Mae Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn dweud fod cloc Neuadd y Dref wedi cael ei ddifrodi’n fwriadol, a hynny yn dilyn cyfnod o’i adfer.

Dywed y cyngor tref ei fod “wedi ei siomi’n enbyd”, yn enwedig ar ôl i’r gymuned sicrhau grant i adfer y cloc yn ddiweddar.

Yn ôl y cyngor fe wnaeth unigolyn, neu grŵp o unigolion, ddringo’r sgaffaldiau sy’n amgylchynu’r cloc gan dorri i mewn i’r tŵr, torri’r gwydr hynafol a thorri dwylo’r cloc.

Mae’r unigolion wedi achosi difrod “gwerth miloedd o bunnoedd”, meddai’r cyngor tref.

Maen nhw’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach am y drosedd i gysylltu â heddlu’r ardal.


Source link

Advertisements

See also  Patients operated on with unsterilised instruments

Check Also

Y Gyllideb: 'Angen bod yn foment o wireddu addewidion'

Galwadau am ragor o arian i Gymru wrth i Lywodraeth Prydain baratoi i gyflwyno ei …

'Does neb yn rhy ifanc i gael mamogram' – menyw a gafodd ganser yn 38 oed

Ar ôl cael ei gwrthod am brawf mamogram am flwyddyn, cafodd Marie Tilley o Arberth …

Para-cycling Track World Championships: New pilot for James Ball as he joins Aaron Pope

While the partnership is in its relative infancy, Ball says there have been some nerves …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime