google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dicter dynodi rheilffordd Rhydychen yn brosiect ‘Cymru a Lloegr’

Ee1b9490 4058 11f0 b6e6 4ddb91039da1.jpg

Mae dicter bod prosiect gwerth biliynau o bunnoedd i adeiladu rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt wedi cael ei ddynodi’n swyddogol yn brosiect “Cymru a Lloegr”.

Ni fydd unrhyw draciau yn cael eu gosod yng Nghymru ar gyfer y rheilffordd gwerth £6.6bn, sy’n golygu na fydd Cymru yn elwa o gyllid ychwanegol.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn “dystiolaeth bellach” o “bolisïau niweidiol” gan lywodraeth Lafur y DU.

Dywedodd David Chadwick, AS y Democratiaid Rhyddfrydol, bod y penderfyniad yn “gywilydd” ac yn “HS2 unwaith eto“.

Dywedodd Llywodraeth y DU y daw’r arian o’u cronfa “gwelliannau rhwydwaith rheilffyrdd… sy’n ariannu prosiectau yng Nghymru a Lloegr”.

Yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru, Ken Skates, mae’r gronfa honno am “wneud yn iawn am danfuddsoddiad gan lywodraethau blaenorol”.

Yn y Senedd brynhawn Mawrth, fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan gydnabod nad yw Cymru yn cael “ein cyfran deg” o wariant ar reilffyrdd.


BBC News

Advertisements

See also  Iceland: King Prawn Ring legal action threat to supermarket rivals

Check Also

WRU outlines reason for cutting one of the west Wales regions

While the decision on where the three licences would be awarded was officially announced in …

Cân Edward H yn ymddangos yng nghyfres Youth gan Sharon Horgan

Dyw clywed cerddoriaeth Gymraeg mewn ffilmiau a chyfresi amlwg ddim yn rhywbeth newydd, gyda’r gân …

Nationwide cashier to repay £12k after stealing from customers

A building society cashier who stole thousands of pounds from customers to pay for “lavish” …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime