google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Deugain mlynedd o yrru a chodi calonnau cleifion

Advertisements

Ond wrth gwrs, nid gyrru’n unig mae Brian yn ei wneud pan fo claf yn y car; mae hefyd yn cynnig sgwrs ac efallai ambell i jôc i godi calon.

“Bydda i’n sgwrsio efo pawb. Ella bod nhw’n amheus ofnadwy pan maen nhw’n mynd i’r ysbyty, a dim llawer o ddim byd i ddeu’tha fi. Wedyn ella bo’ nhw di bod yn gweld arbenigwr a ma’ nhw’n siarad wedyn; ‘dach chi’n cael eu hanes nhw i gyd.

“Am bod lot ohonyn nhw mewn oed, dydyn nhw’m yn gweld llawer o bobl; ella mond fi ma’ nhw’n gweld am ryw dri/pedwar diwrnod. Maen nhw’n hoffi siarad efo chdi.

“O’n i’n gweithio pan oedd Covid. O’dd ‘na neb yn cael mynd allan, felly o’dda nhw’m yn gweld neb. Wedyn o’dda nhw’n falch o gal siarad efo chi.”

Mae’r cleifion sy’n cael pas i gael triniaethau canser yn agos at galon Brian, gan ei fod yn gallu uniaethu gyda nhw, a rhannu ei brofiadau personol ei hun, eglurai.

“Dwi wedi bod trwy ganser fy hun, wedyn o’dd gynno fi syniad be’ o’dda nhw’n ‘neud os oeddech chi’n cael rhywun oedd yn mynd am y tro cynta.

“O’n i’n deud – ‘sgynnoch chi datŵ? Nagoes? Wel bydd gynnoch chi datŵ yn dod o’ma heddiw!’, sef y marciau pen pin ma’r triniaeth yn mynd mewn iddyn nhw. Fydda i’n cael sbort bach efo nhw.

“I rai pobl, mae’n anodd iddyn nhw ddelio efo fo, so dwi’n siarad a chael bach o sbort, a maen nhw’n anghofio ‘chydig amdano fo.”


BBC News

Views: 0

See also  General election: What it's like hosting a debate

Check Also

Welsh leaders to make final pitches to voters ahead of crucial election

Wednesday will be the last day for Wales’ parties to campaign for support ahead of …

Nigel Farage says Wales has become a 'basket case' under Labour

Reform’s leader called for voters to leave Labour in “smithereens” at his party’s final Welsh …

Wrexham AFC: Rob Mac and Ryan Reynolds face Kop expansion challenge

Highways officers say the area around the SToK Cas Ras cannot cope with the extra …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Free ad network for.