google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Delyth Lloyd, Emma Walford a’r ‘ ‘Cricieth Bathing Woman’

Advertisements

Mae dwy gyfnither, Delyth Lloyd a’r cyflwynydd Emma Walford wedi darganfod eu bod yn perthyn i ddynes flaengar oedd yn cadw cytiau ymdrochi ar y traeth yng Nghricieth.

Roedd Catrin Roberts, neu The Cricieth Bathing Woman fel y byddai ymwelwyr yn ei galw’n byw rhwng 1846 ac 1927.

A hithau’n byw’n Oes Fictoria a’r Cyfnod Edwardaidd, y cyfnod lle datblygodd tref glan y môr Cricieth fel cyrchfan wyliau, gwnaeth Catrin ei bywoliaeth drwy logi cadeiriau, pebyll a chychod bach i ymwelwyr, gwerthu penwaig a cherrig fyddai’n rhoi lwc dda, a chreu elïau llysieuol.

Daeth Delyth, sy’n byw yng Nghricieth ac sydd wrth ei bodd yn nofio oddi ar draeth Min y Môr lle byddai Catrin yn gweithio, i wybod ei bod yn perthyn iddi ar ôl gweld darlun o’r ddynes drawiadol.

“Wnes i weld llun o Catrin ar Facebook a wnes i feddwl, am lun da, ac am groen lledr anhygoel.

“Doedd gen i ddim syniad ‘mod i’n perthyn iddi nes i’r diweddar Robert Cadwaladr, hanesydd lleol ddweud wrtha i fod Catrin yn anti i fy nhaid,” eglurai Delyth.


BBC News

See also  Denbighshire resident waits 15 months for garden waste collection

Check Also

Twelve Labradors from same litter reunited for first birthday party in Pontypridd

A Labrador who gave birth to more than a dozen puppies has been reunited with …

Kai Andrews: Oxford United sign Coventry City midfielder on loan

Oxford United have signed midfielder Kai Andrews on loan from Coventry City until January. The …

WRU issues pitch safety advice after record-breaking hot and dry summer

The WRU recommends stopping or delaying play against a series of check points. They include …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime