google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau yn gwadu achosi marwolaeth dyfarnwr rygbi ym Mhowys

Advertisements

Mae dau ddyn o Fanceinion wedi gwadu achosi marwolaeth dyfarnwr rygbi mewn gwrthdrawiad ym Mhowys y llynedd.

Bu farw Rhys Jenkins, 41 o Lyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot, wedi gwrthdrawiad ar yr A483 ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd.

Fe gafodd ei fab naw oed, Ioan, ei anafu yn y digwyddiad hefyd a bu’n rhaid ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty am driniaeth.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener bod Abubakr Ben Yusaf, 29, a Umar Ben Yusaf, 34, mewn cerbydau ar wahân ar y ffordd, i’r de o’r Trallwng.

Plediodd y ddau yn ddieuog i dri chyhuddiad gwahanol, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llawn ym mis Medi.

Yn rhoi teyrnged iddo ar y pryd, dywedodd teulu Mr Jenkins ei fod yn “yn ŵr, tad a dyn teulu ffyddlon” a bod ei farwolaeth yn “gwbl ddinistriol”.

Roedd hefyd yn uchel ei barch o fewn y byd rygbi, ac wedi dyfarnu gemau ar draws Cymru ac yn Seland Newydd.


BBC News

Views: 0

See also  Chwaraeon y penwythnos: Sut wnaeth timau Cymru?

Check Also

Couple marry at Man v Horse race in Llanwrtyd Wells

Safron said it was a busy morning before they exchanged vows: “We arrived, we were …

Rhyl man, 61, denies trafficking girl, 15, to London

A man accused of being involved in a child sexual exploitation ring in Denbighshire has …

Why a Gen Z Londoner can graze sheep in the Welsh valleys

Caleb Tutt’s life looks much like that of many Gen Z professionals in London – …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Just a moment.... heavy equipment transport kern ca.