google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau ddyn ifanc wedi marw ar ol mynd ar goll ar Yr Wyddfa

Advertisements

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dau gorff wedi’u darganfod wrth chwilio am ddau ddyn ifanc oedd ar goll ar fynyddoedd Eryri.

Roedd pryder am ddiogelwch y dynion 19 ac 20 oed ar ôl i’r heddlu gael galwad eu bod ar goll ar yr Wyddfa ar 18 Chwefror.

Cafodd criw o dîmau achub mynydd Llanberis, Aberglaslyn, yr RAF, SARDA a Gwylwyr y Glannau eu galw i chwilio am y dynion ar yr Wyddfa.

Yn anffodus, cafodd cyrff y ddau ddyn eu darganfod ac mae’r ddau bellach wedi’u hadnabod yn ffurfiol, ac mae eu teuluoedd wedi cael gwybod am eu marwolaeth.

Mae’r heddlu yn gofyn am barchu preifatrwydd y teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd yma ac mae’r crwner wedi cael gwybod am y marwolaethau.

Dywedodd Jurgen Dissmann, Cadeirydd tîm achub mynydd Llanberis, “eu bod yn anfon eu cydymdeimlad dwysaf at deuluoedd y ddau ddyn sydd yn anffodus o drasig wedi colli eu bywyd.”

Mi gafodd y tîm yn ogystal â thimau achub eraill eu galw gan yr heddlu i chwilio am y dynion mewn amodau gaeafol ar y mynyddoedd.

“Roedd y gwirfoddolwyr yn chwilio am y ddau ddyn mewn amodau heriol yn yr eira a’r rhew gan weithio oriau hir yn ystod y nos i geisio darganfod y dynion coll mor fuan â phosib”, meddai.

Ychwanegodd Mr Dissmann “er gwaethaf pob ymdrech i chwilio am y dynion, rydym yn hynod drist fod y canlyniad ddim yn un yr oeddem wedi gobeithio amdano.”

“Hoffwn ddiolch i dîm achub mynydd Aberglaslyn, tîm achub mynydd yr RAF, SARDA a Gwylwyr y glannau am eu cymorth amhrisiadwy wrth chwilio am y dynion.”


BBC News

Views: 2

See also  Elise Hughes: Wales' Crystal Palace forward suffers knee injury

Check Also

Firm fined after North Sea worker fell to death through hole in rig

Jason Thomas, 50, fell through a displaced grating on the Valaris 121 in 2023. BBC …

Airbnb host given go-ahead for cabin to replace 'prison watchtower'

It follows a long-standing row about a garden room dubbed a “prison watchtower” in Rhos-on-Sea, …

Welsh government to get some control over youth justice for first time

Welsh government to get control of funding for schemes aimed at preventing children committing crimes. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.