google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau berson ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad beic modur yn Wrecsam

Mae heddlu’r gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i ddau berson ifanc farw mewn gwrthdrawiad beic modur yn Wrecsam nos Wener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r gwrthdrawiad ar Ffordd Wrecsam, New Broughton toc cyn 23:00.

Roedd y ddau berson, 18 ac 19 oed, yn teithio ar Honda 125cc melyn. Bu farw’r ddau ar ôl cael eu cludo i’r ysbyty yn Wrecsam.

Roedd y ffordd rhwng lôn Coed Efa a Dale Road ar gau tan fore Sadwrn.

Gan gydymdeimlo â theulu’r ddau fu farw, mae’r llu’n apelio am wybodaeth neu luniau gan unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd o gwmpas adeg y gwrthdrawiad.

Mae’r Sarjant Liam Morris o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol hefyd wedi “diolch i’r rhai a stopiodd i helpu ac i yrwyr am eu hamynedd tra bo’r ffordd ar gau”.


BBC News

Advertisements

See also  Leigh Halfpenny: Cardiff full-back to have URC farewell against Stormers

Check Also

URC: Lions v Ospreys – Wales fly-half Dan Edwards to start season in South Africa

Lions: Chamberlain; Mpeke, Adams, Kriel, Cronje; Smith, Steyn; Venter, Both, Lombard, Oosthuizen, Delport, Pretorius, Qoma, …

Newborn baby found near Bangor may have been in water for weeks

The body of a baby girl found along a north Wales shoreline may have been …

Cadarnhad mai corff merch fach gafodd ei ddarganfod ar lan y Fenai

Heddlu’r Gogledd yn cadarnhau mai corff merch fach gafodd ei ddarganfod ar lan y Fenai …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime