google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dathliad hanesyddol o ddinas Bangor sy’n 1,500 oed

Advertisements

Mae Bangor yn aml yn cael ei galw’n Ddinas Dysg.

Mae rhai o gyfeiriadau cyntaf o addysg ym Mangor yn mynd nôl i’r 13eg ganrif.

“Sefydlwyd Urdd Fynachaidd y Brodyr Duon yma yn y 13eg ganrif ac fe esblygodd hynny i greu Ysgol Friars yn ardal Hirael,” meddai Gari Wyn.

“Wedyn daeth y Glyniaid ac maen nhw yn chwarae rhan allweddol ym myd addysg Bangor.

“Nesa i adeilad y Brifysgol mae adeilad arall lliw brics coch, sy’n adeilad ysgol gerddorol y Brifysgol rŵan.

“Yn wreiddiol, ysgol sirol cyntaf i ferched yng Nghymru oedd hwnna oedd wedi’i sefydlu gan ddynes o’r enw Dilys Glynne, sy’n rhan bwysig o hanes addysg merched yng Nghymru.

“Wedyn daw’r Coleg ar y Bryn. Dechreuodd yr adeiladu yn 1907 a’i agor yn 1911.

“Parhad oedd o rywbeth oedd wedi dechrau digwydd yn 1884 ac fe ddechreuodd i gyd yng Ngwesty’r Penrhyn. Hefo dylanwad pobl fel Lloyd George a sawl aelod seneddol arall fel William Rathbone o Lerpwl a John Roberts, Aelod Seneddol Y Fflint i gael yr arian.

“Fe enillodd nhw’r frwydr rhwng 13 o drefi yng ngogledd Cymru i gael y Brifysgol ym Mangor. Fe gafodd y coleg ei adeiladu ar y graig oedd yn cael ei galw’n Grib Aethwy.

“Mae’r tŵr mae pawb yn gallu ei weld wrth edrych ar y Brifysgol yn un arbennig.

“Mae pedwar cerflun ar y tŵr, mae Owain Gwynedd yn wynebu lawr at safle ei feddrod yn yr Eglwys Gadeiriol, mae Owain Glyndŵr yna, Llywelyn Fawr a Dewi Sant.

“Fe gostiodd £115,000 i gyd ac mae llyfrgell Shankland yn un arbennig yno sydd i gyd yn creu’r Ddinas Dysg.”

Bron ugain mlynedd cyn sefydlu Prifysgol Bangor, roedd y Coleg Normal yn bodoli sy’n allweddol mewn hyfforddi athrawon y cyfnod i roi addysg i blant Cymru.


BBC News

See also  National Milk Bars: hanes Willie Griffiths a'r tsiaen adnabyddus

Check Also

Gwalia win first home game against Bournemouth Sports

Gwalia United made it two wins from two in the FA Women’s National League Division …

RSPCA appeal as dead dog found on England-Wales border

The body of a dog has been found in “suspicious circumstances” on the border between …

Port Talbot: Man, 40, dies after two motorcycles crash

A 40-year-old man from Bridgend has died following a collision between two motorbikes. It happened …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime