google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Datgan ‘digwyddiad difrifol’ yn Sir Fynwy yn dilyn Storm Claudia

Yr ardaloedd ble mae afonydd yn wynebu rhybuddion am lifogydd difrifol ydy:

  • Afon Mynwy yn Watery Lane, Uwch Mynwy,

  • Afon Gwy yn Nhrefynwy,

  • Afon Mynwy yn Forge Road yn Osbaston ac

  • Afon Mynwy yn Ynysgynwraidd.

Mae’r gwasanaeth tân wedi cadarnhau eu bod wedi helpu nifer o bobl i adael eu cartrefi a chyrraedd mannau mwy diogel.

Dywedodd Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Matt Jones:

“Mae hwn yn ddigwyddiad mawr, ac mae ein criwiau a’n partneriaid wedi bod yn gweithio’n ddiflino drwy’r nos ac i mewn i heddiw er mwyn helpu’r rhai yr effeithiwyd arnynt.

“Ni’n annog pawb i osgoi ardal Trefynwy yn llwyr. Mae’r llifogydd yn sylweddol, ac mae angen i ni gadw’r llwybrau’n glir er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys allu cyrraedd y bobl sydd eu hangen.”

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn annog pobl i osgoi teithio yn yr ardal, ac yn pwysleisio eu bod nhw hefyd yn gweithio’n galed i helpu pawb sydd wedi cael eu heffeithio.


BBC News

Advertisements

See also  Wakefield thrash suffering Salford

Check Also

‘Apwyntiadau 10 munud yn ei gwneud yn anoddach gwirio am ganser gynaecolegol’

Mae Maria Bailey, sy’n 55 oed, o Ben-coed ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn credu bod …

Y frwydr i achub iaith fechan sy’n cael ei siarad mewn un dref

Pan oedd Tymoteusz a’i gyfoedion yn eu harddegau cynnar, roedd ieithyddwyr yn darogan y byddai’r …

Sepsis: ‘O’n i’n gwybod fod rhywbeth difrifol o’i le’

Pan gyrhaeddodd Catrin adref, roedd hi’n cymryd y byddai’n mynd yn syth yn ôl i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime