google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Darganfod olion deinosor 200m o flynyddoedd oed ger Caerdydd

Esboniodd Ms Howells, sydd a 40 mlynedd o brofiad yn astudio paleontoleg yng Nghymru, bod yr olion traed yma, yn ôl pob tebyg, yn perthyn i Camelotia.

Roedd gan y dinosor yma, a grwydrai Ewrop yn ystod y cyfnod Triasig, wddf a chynffon hir ac roedd yn gallu cerdded ar ddwy neu bedair coes.

Er bod esgyrn o ddinosoriaid tebyg wedi’u darganfod yn ardal Bryste, mae’r darganfyddiad hwn yn cryfhau’r dystiolaeth gynyddol bod dinosoriaid yn byw yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw.

Mae Pwynt Larnog, traeth ger Penarth, lle darganfuwyd yr olion, eisoes yn safle adnabyddus am ei hanes cynhanesyddol.

Mae darganfyddiadau diweddar, gan gynnwys sgerbwd llawn o’r Dracoraptor – sy’n perthyn i’r T-Rex – yn 2014 ac olion traed a ddarganfuwyd gan blentyn pedair oed yn 2021, yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr ardal ar gyfer astudiaethau paleontolegol.

“Tan yn ddiweddar, doedden ni ddim yn meddwl bod llawer o ddinosoriaid yma, ond erbyn hyn mae darganfyddiadau’n digwydd bob ychydig flynyddoedd,” meddai Ms Howells.


Source link

See also  Galw am 'ymyrraeth frys' mewn uned iechyd meddwl yn y gogledd

Check Also

Wrexham transfer news: Sheffield Utd’s Callum O’Hare heads for medical

Wrexham are closing in on a deadline day deal for Sheffield United midfielder Callum O’Hare. …

Cwmni marchnata Orchard yn mynd i’r wal ar ôl 16 mlynedd

Mae cwmni marchnata a chyfathrebu Orchard yn cael ei ddiddymu, gan feio “marchnad sy’n crebachu …

Swansea City transfer news: Zeidane Inoussa set for Portsmouth loan

Swansea City winger Zeidane Inoussa is poised to join fellow Championship side Portsmouth on loan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime