google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Damwain fferm wedi plygu fi fel taco, a doedd dim yswiriant digonol’

Trodd diwrnod arferol o waith ar fferm Tymawr ym Mhonterwyd ar 17 Mehefin yn hunllef i Dafydd Morris Jones, sy’n 43 oed ac yn dad i ddau o blant, pedair a chwech oed.

“Fe es i nôl dafad ar y beic cwad, pan ‘naeth yr olwyn flaen lithro ar ddarn bach o redyn, wedyn cododd olwyn gefn y beic a ‘nhaflu bant.

“Yn anffodus, gan bo’ fi ‘di mynd i gyfeiriad y llethr, fe wnaeth y beic fy nilyn i a chodi fy nhraed i lan a plygu fi yn hanner fel taco a torri ‘nghefn i, fe glywes i hynna.

“Torres i ngwddw i hefyd.”

Daeth Dafydd i stop yng nghanol y rhedyn, ac yntau wedi ei anafu’n ddifrifol ac wedi colli teimlad yn ei ddwy goes.

Yn ffodus, roedd ei fam gerllaw ac fe welodd y beic yn gwneud “cartwheels” i lawr y cae a chlywed Dafydd yn gweiddi am help.

Galwodd y gwasanaethau brys, a thra’n aros, fe wnaeth y ddau ddefnyddio y wybodaeth cymorth cyntaf oedd ganddyn nhw i gasglu a phacio y rhedyn o gwmpas ei gefn, a sefydlogi’r anaf.


BBC News

Advertisements

See also  Cymro 21 oed yn ennill Ironman 70.3 yn yr Eidal - yn ei ras hir gyntaf erioed

Check Also

King Charles and Queen Camilla to officially open Senedd as poet dropped from ceremony

King Charles III and Queen Camilla will officially open the Senedd’s seventh term on Thursday …

Crossrail costs soar by £20m and man 'fixated' on police officer

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Contraceptive coil ‘helped uncover my ovarian cancer’

When Caroline Bailey was suffering with sharp, stabbing pains in her stomach, she thought it …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime