google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynhyrchydd BBC wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar wyliau

Advertisements

Mae cwest wedi clywed bod cynhyrchydd radio gyda’r BBC wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ar wyliau teuluol yng Nghanada.

Clywodd y gwrandawiad yn Llys y Goron Pontypridd fod Lynda Shahwan, 53 oed o’r Mynydd Bychan, Caerdydd, yn teithio mewn car a drodd ar ei ochr yn dilyn gwrthdrawiad yng ngogledd Vancouver ar 15 Gorffennaf eleni.

Fe wnaeth Ms Shahwan, oedd yn gweithio i BBC Radio Wales, dderbyn triniaeth yn ysbyty Lionsgate ar gyfer anafiadau i’w hasennau, ei habdomen a’i hysgyfaint.

Fe wnaeth hi aros yng Nghanada am nad oedd yn ddigon iach i deithio, tra bod gweddill y teulu wedi teithio’n ôl i Gymru.

Cafodd ei chanfod yn farw ar 19 Gorffennaf ar ôl i’w gŵr roi gwybod i’r heddlu nad oedd yn medru cael gafael arni.

Cafodd achos y farwolaeth ei gofnodi dros dro fel digwyddiad cerbyd modur a pheritonitis.

Fe wnaeth y Crwner Andrew Morse ohirio’r cwest.


BBC News

Views: 1

See also  New rail money for Wales could be coming down the line

Check Also

Jac Morgan: Wales captain stars for Ospreys days after death of cousin

After an emotional performance on Saturday evening, the British and Irish Lions flanker posted a …

FA fines Cardiff City £15,000 for homophobic chant v Chelsea

The Football Association has fined Cardiff City £15,000 after the club’s fans aimed homophobic chants …

Oedi cyrsiau prifysgol parafeddygol Cymru eleni yn sgil diffyg swyddi

Dywedodd Richard Lee o Goleg Brenhinol y Parafeddygon fod y newyddion yn “bryder”, ond y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime