google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Cyffur canser yn rhy hwyr i Huw, ond yn rhoi gobaith i eraill’

Advertisements

Mae teulu dyn ifanc a fu farw o ganser yn 33 oed yn dweud bod cymeradwyo cyffur newydd yn dod â “gobaith” i gleifion eraill.

Yn 2024 cafodd Huw Jones o Lanuwchllyn, Gwynedd ddiagnosis o fath prin o ganser, cholangiocarcinoma, sy’n dechrau yn nwythellau’r bustl [bile ducts] ac yn effeithio ar yr iau.

Mae’n ganser sy’n tueddu i gael ei ddarganfod yn hwyr gan olygu nad yw’n bosib cynnal llawdriniaeth effeithiol.

Roedd hynny’n wir am Huw, gyda’i ganser wedi cyrraedd cam 4, y mwyaf difrifol, erbyn iddo gael diagnosis.

Ond diolch i waith ymchwil y teulu, fe gafodd Huw gyffur Zanidatamab, sy’n gallu arafu’r math o ganser oedd ganddo.

Mae ei deulu’n argyhoeddedig bod y cyffur wedi rhoi amser prin i Huw gyda’i fab newydd Idris, a hefyd rhoi amser gwerthfawr iddyn nhw cyn iddo farw ym mis Chwefror eleni.

Nawr, mae’r corff sy’n cynghori ar gyffuriau a thriniaethau – NICE – wedi cymeradwyo’r cyffur ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gan ddod a “gobaith” i gleifion eraill yn ôl tad Huw, Gareth Jones.


BBC News

Views: 3

See also  Dewi Lake: Ospreys hooker faces Wales fitness race for Nations Championship

Check Also

Starmer yn ‘agored’ i sgwrs ar ehangu pwerau’r Senedd – Llywodraeth Cymru

Mae’n gyffredin i brif weinidog y DU alw prif weinidog newydd Cymru. Yn ôl y …

Starmer tells Plaid first minister he's 'open' to discussing more Senedd powers

It comes after a telephone call in which Sir Keir congratulated Plaid Cymru’s new first …

Women’s Six Nations: Gwen Crabb to miss Wales’ final game against Italy

Gwen Crabb will miss Wales’ final game of the Women’s Six Nations against Italy with …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our investigation services shield your business from the rising threat of financial fraud. elliot wave membership levels . Nta jee main 2026.