google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-AS yn gwadu cyhuddiad o aflonyddu ar ei chyn-wraig

817b1980 34a2 11f0 8519 3b5a01ebe413.jpg

Advertisements

Mae cyn-AS Pen-y-bont ar Ogwr wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o aflonyddu ar ei chyn-wraig.

Fe wnaeth Jamie Wallis, 40, sydd yng nghanol trawsnewid rhyw a bellach yn cael ei hadnabod fel Katie Wallis, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Hi oedd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024.

Wallis oedd yr AS cyntaf i gychwyn y broses o drawsnewid ei rhyw yn agored.

Mae’r diffinydd, o Dre-biwt yng Nghaerdydd, wedi ei chyhuddo o aflonyddu Rebecca Wallis rhwng 14 Chwefror a 21 Mawrth 2025, gan wneud galwadau ffôn diangen, gyrru negeseuon a negeseuon llais ati, a gyrru heibio ei chartref.

Ni wnaeth y llys gynnig unrhyw dystiolaeth mewn cysylltiad â chyhuddiad blaenorol o stelcian.

Wrth bledio’n ddieuog i aflonyddu (harassment) heb drais, dywedodd Katie Wallis: “Yn gyfreithiol dwi’n cael fy adnabod fel Jamie, ond mae’n well gen i gael fy adnabod fel Katie.”

Dywedodd barnwr y diffynnydd Narita Bahra KC y byddai’n gwneud cais am adroddiad seiciatrig am ei chleient cyn yr achos.

Cafodd yr achos ei ohirio hyd at fis Mehefin.


BBC News

Views: 0

See also  Joel Colwill: Midfielder 'improving all the time', says Cardiff City boss Brian Barry-Murphy

Check Also

Taulupe Faletau: Wales and Lions back row signs new Cardiff deal

Taulupe Faletau has signed a new one-year contract with Cardiff to remain at the Arms …

Glamorgan beat League Two rivals Middlesex to reach T20 Final

The performance was a return to form for Glamorgan, who had edged a last-ball win …

Wales hockey: Men’s team raising funds to go to World Cup

Hockey Wales chief executive officer Paul Whapham said the overall costs to prepare for the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
tech news today.