google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymunedau yn y gorllewin yn ‘grac’ gyda phroblemau cyflenwad dŵr

Dywedodd Dŵr Cymru bod problemau wedi bod gyda chyflenwadau yn yr ardal yn sgil y cynnydd sylweddol yn y galw am ddŵr yn ystod y cyfnod estynedig o dywydd sych a phoeth.

“Mae’r cyfnod estynedig o wres hefyd wedi golygu bod y tir wedi caledu a symud wrth iddo sychu, gan arwain at gynnydd mewn achosion o ollyngiadau dŵr a phrif bibelli yn byrstio yng ngorllewin Cymru.

“Mae’r galw rydyn ni wedi ei brofi ar draws yr ardal wedi bod yn ddigynsail.

“Ar ddiwrnod arferol fe fydden ni fel arfer yn cynhyrchu tua 850 megalitr o ddŵr.

“Eleni mae’r galw wedi bod yn uwch na 950 megalitr y dydd am gyfnod estynedig, a dros 1,000 megalitr y dydd am 10 diwrnod yn olynol.

“Rydyn ni wedi cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio pibelli dŵr yn ardaloedd canol a de Ceredigion i geisio mynd i’r afael â’r cynnydd yn y galw am ddŵr.

“Mae gweithfeydd trin dŵr hefyd wedi bod yn rhedeg ar eu capasiti uchaf – rydyn ni wedi symud dŵr o amgylch y rhwydwaith gan ddefnyddio ein fflyd o danceri a’n timau 24 awr y dydd i drwsio gollyngiadau dŵr ac ymateb i bwysau lleol ar gyflenwadau.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Netflix Welsh-language show Dal y Mellt hopes to build on success

Check Also

Content creator who left bathtub on Pen y Fan apologises

“It was a complete honest mistake,” Christopher said. “I obviously didn’t mistakenly leave it up …

Ferryside Bond-style house on stilts wins Wales’ Home of the Year

Iain, 63, who grew up in Carmarthen, remembered spotting the holiday home as a child …

‘Too early’ to know if Burnham will back new Welsh powers, says first minister

After former prime minister Sir Keir Starmer was accused of bypassing Welsh ministers, undermining devolution, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime