google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Cymry ar restr anrhydeddau’r Brenin yn sôn am eu sioc o’u derbyn

Un arall fydd yn derbyn MBE yw David Emanuel, 73, sy’n wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, am ei waith gydag elusen ganser Macmillan.

Mae Mr Emanuel yn enwog am ei waith fel dylunydd ffasiwn – wedi gweithio gydag enwogion fel y diweddar Diana, Tywysoges Cymru, a’r gantores Madonna.

Dywedodd ei fod wedi cael diagnosis o ganser y brostad 12 mlynedd yn ôl a bod nyrs Macmillan wedi ei annog i siarad am ei brofiad.

“A dyna wnes i a chefais gymaint o ymatebion, roedd yn anhygoel,” meddai.

Ers hynny mae Mr Emanuel wedi bod yn llysgennad i’r elusen.

“Mae wedi bod yn werth chweil, oherwydd mae’n gwneud i chi deimlo’n wych pan ‘da chi’n siarad â phobl.

“Dwi’n lwcus, lwcus iawn, fy mod i wedi goroesi.”

Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen i sôn i’w blant am ei anrhydedd.

“Dwi’n eithaf da am gadw cyfrinachau,” meddai.

“Wnes i lwyddo i gadw ffrog briodas Diana yn gyfrinach a dydw i ddim hyd yn oed wedi dweud wrth fy mhlant.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Ffos-y-Fran: Merthyr Tydfil mine a case of epic mismanagement, report says

Check Also

'Y golled tu ôl i fy mhrofiad o ddysgu Cymraeg'

Katie MacGregor o Wrecsam sy’n rhannu ei phrofiad o ddysgu Cymraeg gyda’i mam, a fu …

National Hunt 2026-27: Five things to follow in Welsh racing

Bande Organisee is one of the most exciting young horses in Curtis’s stable. The five-year-old …

Cau ysgolion yn Sir Gâr: ‘Mae’r plant yn beio’u hunain’

Daw’r cyfarfod ddiwrnod ar ôl i Gyngor Sir Gâr benderfynu bwrw ymlaen â chynlluniau i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime