google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru’n methu cymryd cyfleoedd mewn gêm gyfartal yn erbyn De Corea

Advertisements

Cyfartal oedd hi rhwng Cymru a De Corea mewn gêm gyfeillgar yn Sbaen nos Wener.

Mae tîm Rhian Wilkinson yn chwarae dwy gêm yn Malaga yn dilyn rhediad o ganlyniadau siomedig i’r garfan.

Roedd ‘na ddechrau da, wrth i’r capten Sophie Ingle roi Cymru ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf.

Ar ôl i ergyd Lily Woodham gael ei wthio dros y bar, rhoddodd y cefnwr groesiad peryglus i mewn o’r gic gornel, ac Ingle oedd yna i benio i mewn i’r rhwyd.

Cymru oedd yn rheoli am gyfnodau hir o’r hanner cyntaf, ond doedden nhw ddim yn gallu cymryd mantais o gyfleoedd cynnar.

Cafodd Ingle gyfle da gyda’i phen eto, ond aeth yr ymgais i ddwylo golwr De Corea.

Roedd ‘na gyfleoedd i Hannah Cain a Carrie Jones hefyd, ac fe allai’r Cymry fod wedi cyrraedd yr egwyl ymhellach ar y blaen.


BBC News

Views: 0

See also  'There's no blame, I'm asking Wales to play on the edge' - Wilkinson

Check Also

Strictly star Amy Dowden unveils mini statue of herself in Caerphilly

Florist Nicola Downie dressed her shop window with Dowden’s face as part of the plans. …

DNA test for serial killer Levi Bellfield who claims he killed Lin and Megan Russell

Stone has twice been found guilty of the murders of Lin and Megan and the …

Wales captain Dewi Lake set to miss South Africa Test with groin injury

Elias is likely to make his Test start since the opening round of the 2024 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes.