google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html https://www.zazzle.com/life_is_better_outside_funny_golden_retriever_t_shirt-256699271524127185

Cymru yn colli yn erbyn Slofacia yn y gemau ail-gyfle

Colli fu hanes tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Slofacia o 2-1 yn eu gêm yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.

Wedi hanner cyntaf di-sgôr, y tîm cartref aeth ar y blaen yn dilyn ergyd gampus gan Martina Surnovska o du allan i’r cwrt cosbi wedi 49 munud o chwarae.

Aeth Slofacia ymhellach ar y blaen deng munud yn hwyrach wrth i Maria Mikolajova daro’r bêl i’r rhwyd o 25 llath yn dilyn trosedd gan gapten Cymru, Angharad James.

Wedi i’r eilydd profiadol, Jess Fishlock, ddod i’r cae, dechreuodd y Cymry i edrych yn fwy bygythiol gan greu sawl cyfle.

Gyda munudau’n unig yn weddill o’r gêm, sgoriodd Ffion Morgan gan roi llygedyn o obaith i’r Cymry wrth i’r ddau dîm baratoi ar gyfer yr ail gymal nos Fawrth nesaf yng Nghaerdydd.

Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae’n erbyn un ai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia am le yn yr Euros yn Y Swistir yr haf nesaf.


Source link

See also  Two new caps for Wales' Six Nations opener

Check Also

World Series of Darts Finals: England’s Ross Smith beats Gerwyn Price

“Honestly, I am made up with the win. I am just so happy,” said Smith, …

AI human extinction fears make me want to flee to an island

On an overcast Friday at Barry Island, Vale of Glamorgan, people’s reaction ranged from sceptical …

Adran Premier: Houghton strikes twice as Cardiff City seal first win

Sunday, 20 September Cardiff City 3-2 Briton Ferry Llansawel: Anna Houghton scored twice as Cardiff …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime