google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru i gynnal rhan o’r Tour De France am y tro cyntaf yn 2027

Advertisements

Dywedodd Christian Prudhomme, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Tour de France ei fod “wrth ei fodd” yn cyhoeddi y bydd y digwyddiad yn dychwelyd i’r DU yn 2027.

“Mae Prydain wastad wedi croesawu’r Tour gyda brwdfrydedd a balchder ac fe fydd y cydweithio ar hyd Lloegr, yr Alban a Chymru yn siŵr o wneud y digwyddiad yma yn fwy arbennig fyth.”

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan fe dydd cymal Cymreig y Grand Départs yn “brofiad cofiadwy i gystadleuwyr a chefnogwyr”.

“Gyda’n tirwedd arbennig, ein cymunedau croesawgar a chynnes a nifer cynyddol o ddilynwyr seiclo – fe fydd Cymru yn sicr o gynnig her a chroeso unigryw.

“Byddwn yn adeiladu ar ein hanes o gynnal digwyddiadau seiclo ffordd er mwyn sicrhau fod y Tour de France yn cael effaith gadarnhaol hir dymor ar y gamp yng Nghymru.”

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, mewn datganiad: “Rydw i’n falch iawn i weld un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf.

“Mae cynnal y Tour de France yma yn 2027 yn gyfle arbennig i ddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang.”


BBC News

Views: 0

See also  Paramedic detained under Mental Health Act weeks before Hednesford deaths

Check Also

Thieves steal car with £4,000 of vital equipment for girl, 4, with rare disorder

Catrin Jones says the theft means travelling to medical appointments with her daughter is difficult. …

Gwleidydda: Yr wythnos olaf cyn yr etholiad

Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd gwyliwch rifyn arbennig o bodlediad Gwleidydda gyda Vaughan …

Car, sy’n cynnwys offer gwerth £4,000 ar gyfer plentyn anabl, wedi’i ddwyn

Mae mam i blentyn pedair oed sydd ag anabledd difrifol yn dweud ei bod wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Nordicnodes | professional saas tools for everyone.