google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2025

Cafodd Morgan gyfle euraidd cwta dau funud mewn i’r ail hanner ond fe grymanodd hi’r bêl heibio’r postyn pellaf.

Roedd sawl cyfle arall i Gymru wedi hynny hefyd, gyda Ceri Holland yn achosi problemau mawr i Slofacia lawr yr asgell dde.

Fe darodd Fishlock y bêl i gefn y rhwyd ddwywaith yn yr ail hanner, ond roedd hi’n camsefyll yn ar y ddau achlysur.

Er i Gymru ennill 1-0 wedi 90 munud, roedd buddugoliaeth Slofacia yn y cymal cyntaf yn golygu bod angen amser ychwanegol i wahanu’r ddau dîm.

Roedd y chwarae yn ystod yr hanner awr ychwanegol ychydig yn fler gyda’r ddau dim yn amlwg wedi blino.

Ond gyda 112 o funudau wedi chwarae, fe darodd Fishlock y bêl dros amddiffyn Slofacia tuag at Kayleigh Barton a darodd y postyn – ond fe adlamodd y bêl i gyfeiriad Holland a lwyddodd i ergydio’n bwerus heibio’r golgeidwad.

Er rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn ag a oedd Barton yn camsefyll neu beidio, fe wnaeth VAR gadarnhau fod y gôl yn un dilys.

Fe fydd gemau’r rownd derfynol yn cael eu cynnal ar 27 Tachwedd a 3 Rhagfyr.

Yn y Swistir fydd rowndiau terfynol Euro 2025 yn cael eu cynnal.


Source link

Views: 1

See also  Mum lied to police about seeing son after Shotton hit and run

Check Also

Estate attracted Rihanna and Justin Bieber – but area's Grade II-listed gem was forgotten

Radio 1’s Big Weekend, the National Eisteddfod and Faenol Festival have all been held on …

Woman serious injured in alleged hit and run

A woman suffers life-changing injuries after being hit by a car in an alleged hit …

Talu am bigiadau colli pwysau yn breifat yn sgil rhestrau aros hir

Ar ôl cael diagnosis yn 25 oed, roedd Hannah o Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, wedi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Transforming lives through purpose driven alignment and strategic mastery.