google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymraeg ôl-16: Colli arian a glustnodwyd yn ‘andwyol’ a ‘syfrdanol’

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones fod y buddsoddiad ychwanegol yn 2022-23 a 2023-24 wedi galluogi’r coleg a’r ganolfan “weithredu’n fwy dwys yn y sector ôl-16”.

Er enghraifft, meddai, “mae wedi arwain at benodi mwy o ddarlithwyr ac aseswyr cyfrwng Cymraeg, a mwy o hyfforddiant Cymraeg i staff ac i fyfyrwyr.

“Er nad oes modd rhagweld beth yn union fydd effaith y penderfyniad i ail-flaenoriaethu’r cyllid ychwanegol ar y niferoedd sy’n dysgu Cymraeg neu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n rhesymol dod i’r casgliad y bydd rhywfaint o’r gwaith uchod yn arafu neu ddim yn cael ei ddatblygu ymhellach.”

Rhybuddiodd bod hyn yn “debygol o gael effaith andwyol ar ddatblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16”.

Pwysleisiodd bod “datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ôl-16 yn cychwyn o waelodlin hynod isel”.

Angen i’r Llywodraeth flaenoriaethu‘r system addysg

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Cadeirydd Dyfodol yr Iaith, Heini Gruffudd fod cwtogi’r arian yn bryder “difrifol iawn” gan ddweud fod y Llywodraeth “wedi dewis cwtogi mewn meysydd meddal iddyn nhw”.

“Mae gwir angen arian yn hollol amlwg ar gynlluniau i ddatblygu’r Gymraeg os yw’r Llywodraeth o ddifrif am gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050”.

“Heb fod arian yn cael ei neilltuo’n benodol i addysg Gymraeg ac i ddatblygu’r Gymraeg, does dim datblygiad yn mynd i fod.”

Aeth ymlaen i sôn mai un broblem yw’r arian sy’n cael ei wario “i fyfyrwyr fynd allan o Gymru i astudio”.

“Mae’n hen bryd i’r Llywodraeth flaenoriaethu sut maen nhw’n datblygu’r system addysg yng Nghymru”.


Source link

Views: 0

See also  Wales had hottest summer on record, figures show

Check Also

Tom Jones had shoes and socks stolen by fans, recalls The Script star

Sir Tom Jones was paddling in the sea in Dublin when fans made off with …

Man accused of being in child sexual exploitation ring says 15-year-old consented

Ziaullah Badshah is one of five people who deny claims around the sexual exploitation of …

Ethol esgob newydd Bangor wedi deuddydd o drafod

Mae’r Tra Pharchedig Manon Ceridwen James wedi cael ei hethol yn esgob newydd Bangor. Ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
power only ohio. Just a moment.... car transport new mexico.