google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymraeg fel pwnc: Patrwm o TGAU i Safon Uwch yn ‘anffodus’

Advertisements

Mae’n “anffodus” nad yw’r cynnydd yng nghanran y disgyblion sy’n astudio Cymraeg fel pwnc ar lefel TGAU yn cael ei adlewyrchu yn y niferoedd sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch, meddai Llywodraeth Cymru.

Ym mlwyddyn academaidd 2024/25, 3.1% o’r dysgwyr a gafodd eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg iaith gyntaf ddwy flynedd ynghynt oedd wedi cofrestru ar gyfer Safon Uwch Cymraeg iaith gyntaf.

Dim ond 0.8% o’r dysgwyr a gafodd eu cofrestru ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith ddwy flynedd ynghynt oedd wedi cofrestru ar gyfer Safon Uwch Cymraeg ail iaith.

Yn 2008/09 roedd y ffigwr yn 6.7% ar gyfer Cymraeg iaith gyntaf, a 2.9% ar gyfer ail iaith.

Roedd 80% o ddysgwyr Blwyddyn 11 wedi’u cofrestru i sefyll TGAU Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith yn 2024/25 (18% Cymraeg iaith gyntaf, a 62% Cymraeg ail iaith).

Mae hyn wedi cynyddu o 70% yn 2008/09 (14% Cymraeg iaith gyntaf, a 56% ail iaith).

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn adroddiad blynyddol 2024–25 Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth: “Rydym am weld mwy o ddysgwyr yn astudio’r iaith ar lefel Safon Uwch ac ar lefel gradd, er mwyn inni allu creu’r genhedlaeth nesaf o academyddion, athrawon a gweithwyr dwyieithog mewn sectorau allweddol lle mae angen sgiliau iaith lefel uwch.”


BBC News

Views: 2

See also  Netflix Missing You star watched Luke Littler's darts win instead

Check Also

'Very funny' naked statue of Monty Python's Terry Jones to be unveiled

Sir Michael Palin said his fellow Python star Jones would have found the statue “very …

URC: Cardiff 24-21 Ospreys – Hosts win Welsh derby to improve play-off hopes

Cardiff: Winnett; Beetham, B Thomas, Jennings, Bowen; Sheedy, Mulder; Barratt, Belcher (capt), Sebastian, McNally, Thornton, …

County Championship: Carlson and Dickson boost Glamorgan v Leics

The visitors gave places to ex-Yorkshire batter Jonny Tattersall and former Somerset seamer Josh Davey, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
08 bn ssb civic action program. jak efektywnie korzystać z demo w kasynie vox i gry na żywo.