google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymorth i farw: Rhoi’r hawl i bobl ddefnyddio’r Gymraeg

Advertisements

Fis Chwefror fe wnaeth grŵp o feddygon alw ar Aelodau Seneddol Cymreig i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn y mesur.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Liz Saville Roberts, a gyflwynodd y gwelliant yn ymwneud â’r Gymraeg ei fod yn “bwysig iawn bod hyn ar wyneb y mesur o ran San Steffan”.

Ychwanegodd fod ‘na “gyfrifoldeb ar weinidogion Cymru i sicrhau fod ‘na bobl, cyn gymaint â medra ni o bobl, ac i ni fod yn cynllunio yn sicr i roi blaenoriaeth i’r claf”.

Dywedodd ei bod wedi gweld yr angen am yr hawl i allu trafod y pwnc yn y Gymraeg ar bob cam o’r daith, ers y cychwyn.

“Mae’r Gymraeg yn bwysig yn fy marn i fan hyn, nid just oherwydd y ddogfenaeth… ond hefyd pan dy’n ni’n dod i’r sefyllfa hynod sensitif ‘ma, fod gennyn nhw hawl i wneud y trafodaethau yma trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny trwy gydol y broses.

“Dwi ddim yn meddwl fod o’n briodol fod pobl yn gorfod gofyn pob cam o’r ffordd, a dwi ddim yn meddwl fod o’n briodol chwaith fod dehonglwyr neu gyfieithwyr yn cael eu cynnig iddyn nhw.”

Roedd o’r farn fod angen i “weinidogion Cymru ymafael â hyn achos mae’r goblygiadau i’r gwasanaeth iechyd yn sylweddol iawn”.

“Mae’r goblygiadau i hawliau pobl sâl yng Nghymru yn sylweddol yn ogystal.

“Mae safguarding yn hynod o bwysig ar un ochr, a rhoi mwy o rym i bobl benderfynu sut maen nhw’n mynd i farw – rhywbeth dwi’n bersonol yn teimlo yn hawl pwysig.”


BBC News

Views: 0

See also  A decade on from when the Wylfa nulear turbines fell silent on Anglesey

Check Also

First minister urges retailers to halt disposable barbecue sales

The first minister has urged Welsh retailers to stop selling disposable barbecues as this summer’s …

Cameron Burgess: Swansea City defender suffers ruptured Achilles

Swansea City have suffered a heavy eve-of-season blow after scans revealed centre-back Cameron Burgess has …

A oedd Owain Glyndŵr yn ddylanwad ar Fidel Castro?

Cafodd Ciwba lwyddiannau heb os yng nghyfnod Castro wrth y llyw; gofal iechyd am ddim, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Cpanel reseller hosting hostrite hosting news updates. elfbar elfx kit silver. elfbar elfa basic units (battery carrier).