google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn ‘llawn geiriau gwag’

Advertisements

Wrth gyhoeddi ei gynlluniau gwario ym mis Rhagfyr dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford fod y gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesa, sy’n werth £26b, yn “rhoi gobaith ar gyfer dyfodol mwy disglair”.

Ond yn ôl adroddiad y pwyllgor cyllid, dydy hi ddim yn glir a ydy’r cynlluniau’n cyd-fynd â’r rhethreg, ac mae yna gryn dipyn o waith i’w wneud eto.

Mae’r argyfwng costau byw yn un maes sydd angen sylw, medd y pwyllgor, gan gyhuddo Llywodraeth Cymru o roi’r gorau i estyn cymorth i bobl sy’n ei chael hi’n anodd. Dywedodd llefarydd y byddai’r llywodraeth yn ystyried argymhellion y pwyllgor.

Yn y cyfamser mae yna ddyfalu o hyd ynghylch sut mae’r llywodraeth yn bwriadu pasio’i chyllideb, achos heb fwyafrif ym Mae Caerdydd bydd angen i Lafur ddod i gytundeb gydag un o’r gwrthbleidiau.

Bydd y senedd yn pleidleisio ar y cynlluniau gwario am y tro cyntaf ddydd Mawrth.

Pleidlais gychwynnol yn unig fydd honno ond pe bai’r llywodraeth yn colli, byddai hynny’n tanlinellu’r pwysau sydd ar weinidogion cyn bod y bleidlais hollbwysig ar y gyllideb derfynol yn digwydd fis Mawrth.


BBC News

Views: 1

See also  Pa gae pêl-droed sydd â'r olygfa orau yng Nghymru?

Check Also

Jacob Beetham: Wales back signs new Cardiff contract

Beetham has proven his quality and versatility to Cardiff head coach Corniel van Zyl. “He …

Murder-accused devastated by woman's death, court hears

Kian Bateman denies the murder of Shelley Davies and the attempted murder of David Bratcher. …

Jack Walsh: Ospreys confirm versatile back will leave for Montauban

Walsh was born in the United States of America before becoming a graduate of the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.