google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo tri o dwyll £5 miliwn mewn coleg y chweched yng Nghaerdydd

Advertisements

Mae tri pherson wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â thwyll o £5 miliwn mewn coleg chweched dosbarth blaenllaw yng Nghymru.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dau ddyn a menyw mewn cysylltiad ag achosion o anghysondebau ariannol yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd rhwng 2012 a 2016.

Mae Yasmin Anjum Sarwar, 43, o Gyncoed, Caerdydd, a Nadeem Sarwar, 48, o Bentwyn, Caerdydd, wedi’u cyhuddo o sawl trosedd o ladrad a thwyll.

Mae Ragu Sivapalan, 39, o Benylan, Caerdydd wedi’i gyhuddo o gyfrifo ffug rhwng 2013 a 2016.

Mae disgwyl i’r tri ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, 8 Ebrill.

Yn 2016 roedd yna raglen ddogfen gan y BBC ar y coleg, sydd ar Ffordd Casnewydd, sef Britain’s Brainiest School ac mae’r coleg yn aml yn cofnodi rhai o’r canlyniadau Safon Uwch uchaf yn y wlad.

Ers y twyll honedig, mae’r coleg yn eiddo i berchnogion newydd. Enw’r elusen bresennol sy’n ei oruchwylio yw Cardiff Educational Endowment Trust.


BBC News

Views: 0

See also  Vuelta a Espana 2024: American Brandon McNulty wins opening stage time trial

Check Also

Y gobaith yw cadw dwy orsaf Radio Cymru – dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol y BBC

Dywedodd bod y toriadau “sy’n oddeutu deg y cant o arian y BBC” yn mynd …

Penybont will not waste water lessons in Uefa Conference League qualifier

Griffiths added: “I thought some of their antics were really poor, but it’s up to …

Carys Phillips: Exeter sign Wales hooker from Harlequins

Exeter Chiefs have signed Wales hooker Carys Phillips for the 2026-27 Premiership Women’s Rugby season. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime