google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 2 2026

Cyhuddo nyrs ym Mhen-y-bont o ffugio cymwysterau

Clywodd y llys fod Tania Nasir wedi datgan profiad nyrsio sylweddol mewn ysbytai mawr pan wnaeth gais am y swydd yn uned Pen-y-bont ar Ogwr.

Honnodd ei bod wedi gweithio gyda babanod cynamserol fel Nyrs Staff Newydd-enedigol Band 5/6 yn Ysbyty Chelsea a Westminster yn Llundain rhwng 2010 a 2015, ond clywodd y llys nad oedd cofnod iddi gael ei chyflogi yno.

Clywodd y rheithgor hefyd bod Ms Nasir wedi honni iddi gael ei chyflogi ym meddygfa triniaethau wyneb Maxillo, theatrau llawdriniaethau brys a’r adran damweiniau ac achosion brys rhwng 2004 a 2007 gydag Ymddiriedolaeth Ysbytai Gorllewin Sir Hertford.

Honnodd hefyd ei bod wedi gweithio yn yr uned gofal dwys i oedolion yn Ysbyty Cyffredinol Watford fel nyrs.

Mae’r adrannau Adnoddau Dynol yn dweud nad yw hi erioed wedi cael ei chyflogi ganddyn nhw mewn unrhyw swydd.

Honnodd hefyd iddi fod yn Ymarferydd Adran Weithredu. Er mwyn gwneud hynny, byddai hi wedi gorfod bod wedi cael ei chofrestru gyda’r Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal.

Mae’r cyngor wedi cadarnhau nad oedd ganddyn nhw unrhyw gofnod yn enw Tanya Nasir.

Dywedodd Ms Harris fod y wybodaeth roedd Ms Tanya Nasir wedi ei darparu ar ei ffurflenni cais yng Nghwm Taf Morgannwg ac ar gyfer dau gais i Ysbyty Hillingdon yn Llundain yn dwyllodrus ac yn ffug.

“Fe aethon nhw ymhellach na gorliwio neu addurno ei chymwysterau. Roeddent yn cynnwys graddau nad oedd ganddi, roeddent yn cynnwys profiad nad oedd ganddi ac na allai fod wedi’i gael. “


Source link

See also  Teen pulled knife in Cardiff school toilets

Check Also

Dan Watts: Exeter sign midfielder from Swansea City on loan

Exeter have signed midfielder Dan Watts from Championship leaders Swansea on a season-long loan. The …

I’ve learned lessons, first minister says after summer budget defeat

At a press conference ap Iorwerth warned of a challenging financial situation and said his …

Dynes wedi marw o drawiad gwres tra’n cerdded ar Yr Wyddfa – cwest

Mae cwest wedi clywed bod dynes 35 oed wedi marw ar fynydd yn Eryri ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime