google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dyn yn dilyn ‘ymosodiad parhaus’ ar ddynes

Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio treisio, bygwth lladd ac achosi niwed corfforol difrifol ar ôl i ddynes gael ei chanfod ag anafiadau difrifol i’w hwyneb.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y ddynes wedi dioddef “ymosodiad parhaus” yn ardal Wdig, Sir Benfro, nos Wener.

Mae Benjamin Guiver, o Abergwaun, yn wynebu saith cyhuddiad.

Mae’r dyn 34 oed wedi’i gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe.

Bydd presenoldeb heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn tawelu meddwl y gymuned, meddai’r llu.

Mae’r heddlu wedi apelio ar dystion i gysylltu â nhw gydag unrhyw wybodaeth.


Source link

Advertisements

See also  'Profiad ofnadwy' gorfod colli coes i ddiabetes

Check Also

United Rugby Championship: Contest for Wales selection heats up as Ospreys and Scarlets win

Scarlets were staring down the barrel when trailing 21-7 at half-time against Benetton, and it …

Brian Barry-Murphy: Cardiff not good enough in Blackburn Rovers defeat

After that disappointing opening 45 minutes at Ewood Park, Barry Murphy felt his side created …

Bangor worker paralysed after falling 30ft wins £10m from employer

The Cheshire-based firm was fined £240,000 at a magistrates’ court hearing in 2024 over the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime