google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dyn mewn cysylltiad â dymchwel achos trywanu Dyffryn Aman

F214dc30 2412 11f0 a686 ebbae6481125.jpg

Advertisements

Mae dyn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â dymchweliad achos llys yn dilyn achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.

Cafodd merch 14 oed a drywanodd dwy athrawes a disgybl yn yr ysgol ddedfryd 15 mlynedd yr wythnos hon.

Cafodd yr achos gyntaf ei chwalu fis Hydref oherwydd “anghysondeb mawr yn y rheithgor” yn ôl y barnwr.

Fe wnaeth yr ail achos gychwyn ym mis Ionawr cyn dod i derfyn yr wythnos hon.

Mae Christopher Elias, 45 oed o Waunceirch, wedi ei gyhuddo o beidio ag ateb cwestiwn yn ymwneud â bod yn gymwys i wasanaethu ar reithgor.

Daw’r cyhuddiad o dan Ddeddf Rheithgorau 1974, sy’n nodi gofynion ynghylch pwy sy’n gymwys i wasanaethu ar reithgor yng Nghymru a Lloegr, ac yn caniatáu i swyddogion llys ofyn cwestiynau i aelodau posibl i sefydlu a ydynt yn gymwys i ffurfio rhan o reithgor ai peidio.

Fe wnaeth Mr Elias ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar 23 Ebrill, a bydd yn ymddangos yn y llys unwaith yn rhagor ar 14 Mai.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin a disgybl eu hanafu yn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman fis Ebrill y llynedd.

Cafodd y ferch, na allwn ei henwi am resymau cyfreithiol, ddedfryd 15 mlynedd.


BBC News

Views: 0

See also  Tonteg woman who got stuck in shop shutters in viral TikTok clip dies

Check Also

Robert Plant yn rhoi ei sêl ar gais diwylliannol Machynlleth

Ymhlith yr holl lecynnau sydd wedi dylanwadu arno, yr un mwyaf adnabyddus yn fyd-eang yw …

Cymru’n llwyfannu ‘uchafbwynt’ y byd golff i chwaraewyr ag anabledd

Ar ôl tair blynedd yng Nghlwb Golff Woburn, ym Milton Keynes, mae’r bencampwriaeth agored G4D …

Huw Stephens a’i gariad at y Super Furries

Beth oedd dylanwad y Super Furries ar yr Huw Stephens ifanc? “Mae Gruff ryw ddegawd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. güncel archives cassinox giriş adresi.