google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-arweinydd UKIP yn y Senedd, Caroline Jones, wedi marw

Advertisements

Mae Caroline Jones, cyn-arweinydd UKIP ym Mae Caerdydd, wedi marw yn 71 oed.

Roedd hi wedi bod yn derbyn gofal lliniarol ar ôl cael diagnosis o sepsis difrifol.

Aeth yn sâl ar noson canlyniad yr etholiad, ar ôl mynychu’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden y Barri yr un diwrnod.

Bu farw yn Ysbyty Treforys yn ystod oriau mân fore Iau.

Roedd yn ymgeisydd annibynnol yn sedd Pen-y-bont Bro Morgannwg, lle roedd hi’n byw, yn etholiad y Senedd.

Gadawodd hi blaid Reform UK ychydig cyn hynny ar ôl gwrthod bod yn drydydd ar restr y blaid yn sedd Pontypridd Cynon Merthyr.

Dywedodd ei gŵr, Alun Williams, wrth BBC Cymru ei bod yn “fenyw wych” oedd yn boblogaidd yn y Senedd ac “na allai wneud digon i bobl eraill”.

Ganwyd hi yn Ysbyty Llwynypia yn Rhondda ym 1955, ac roedd wedi hyfforddi fel athrawes drama ac addysg gorfforol, gan sefydlu ei chaffis ei hun yn ddiweddarach ym Mhorthcawl a Phen-y-bont ar Ogwr.

Hyd at 2005 treuliodd dros saith mlynedd yn gweithio fel swyddog carchar yng Ngharchar Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwasanaethodd fel AS dros Orllewin De Cymru o Fai 2016 i Fai 2021.

Roedd yn un o saith gwleidydd UKIP a gafodd eu hethol i’r Senedd (y Cynulliad ar y pryd) yn 2016, ar ôl bod yn aelod o’r Blaid Geidwadol cyn hynny.

Yn fuan iawn bu ffraeo o fewn grŵp UKIP ym Mae Caerdydd, gyda Ms Jones yn un o dri arweinydd ganddyn nhw.

Ar ôl hynny ymunodd â Phlaid Brexit, a’u gadael hwythau gan eu cyhuddo o gael safbwynt “gwrth-ddatganoli” oedd yn erbyn ei hegwyddorion.


BBC News

Views: 0

See also  Warning bridge could contaminate drinking water

Check Also

Cymru’n llwyfannu ‘uchafbwynt’ y byd golff i chwaraewyr ag anabledd

Ar ôl tair blynedd yng Nghlwb Golff Woburn, ym Milton Keynes, mae’r bencampwriaeth agored G4D …

Huw Stephens a’i gariad at y Super Furries

Beth oedd dylanwad y Super Furries ar yr Huw Stephens ifanc? “Mae Gruff ryw ddegawd …

Staff yn wynebu anghwrteisi wrth i bris pysgod a sglodion godi

Mae Rhys yn dweud ei fod wedi archebu ciosg digidol lle gall cwsmeriaid osod eu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. Sayesinde kullanıcılar her zaman güncel adrese kolayca ulaşır.