google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dyn 18 o lofruddiaeth wedi gwrthdrawiad

Advertisements

Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Trelái, Caerau am 00:30 ar ddydd Sadwrn 27 Medi ar ôl adroddiadau bod car wedi taro tri cherddwr.

Fe gafodd Shelley Davies, 38 o ardal Caerau, anafiadau difrifol yn y digwyddiad ac mae Heddlu’r De wedi cadarnhau y bu Ms Davies farw yn yr ysbyty ddydd Sadwrn.

Wedi’r gwrthdrawiad fe gafodd dyn 18 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Kian Bateman o ardal Caerau bellach wedi cael ei arestio eto ac wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Ms Davies, ac o achosi niwed corfforol difrifol i gerddwr arall.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa gyda disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cydymdeimlo’n arw gyda theulu a ffrindiau Shelley Davies wrth iddyn nhw “geisio ymdopi â’r golled ofnadwy yma”.


BBC News

Views: 1

See also  American psychological thriller starring Joel Edgerton

Check Also

‘Trist’ bod nifer siaradwyr Cymraeg Ystradgynlais wedi gostwng gymaint

Yn llyfrgell y dre mae grŵp o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd yn gyson. …

Starmer defence plans will cut Welsh budget, says first minister

The Welsh government added: “It is completely unacceptable that Welsh capital budgets which are already …

Cardiff video shows seagull ‘meeting’ and overflowing bins as students move out

Adan, from London, lived in Cathays while studying a masters degree in international relations. She …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The cookie is updated every time data is sent to the google analytics server.