google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dau o droseddau rhyw hanesyddol mewn canolfan yn Y Fenni

C862f570 5036 11f0 b2ab 9bc97c966e29.jpg

Advertisements

Mae Mr Riddell, o Rondda Cynon Taf, wedi cael ei gyhuddo o 38 o droseddau, gan gynnwys tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 ac un cyhuddiad o geisio ymosod yn anweddus ar ferch o dan 16 oed.

Mae’r cyhuddiadau hefyd yn cynnwys 14 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.

Mae hefyd wedi cael ei gyhuddo o 20 achos o ymosod, cam-drin, esgeulustod, gadael plentyn, peri i berson ifanc gael dioddefaint diangen, ac achosi anaf.

Mae Mr Griffiths, o Flaenau Gwent, wedi cael ei gyhuddo o saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen o dan 14 oed.

Mae’r cyhuddiadau’n ymwneud â 16 o ddioddefwyr.

Ar y pryd, hen Gyngor Sir Gwent oedd yn gyfrifol am y ganolfan ac mae wedi bod ar gau ers 1995.

Mae’r Ditectif Uwcharolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent wedi annog y cyhoedd i barchu’r broses gyfreithiol ac i beidio dyfalu ar-lein am yr achos.


BBC News

Views: 2

See also  Michael Sheen yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd i Gymru

Check Also

O Singapore i Gymru, i gasglu caneuon gwerin

Bwriad Irfan bob amser yw i fod yn hollol driw i’r gân mae’n ei dysgu, …

‘Cynnwrf’ yng Nghasnewydd wrth baratoi i groesawu Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf

Un arall sy’n edrych ymlaen at ymweliad yr Urdd y flwyddyn nesaf ydi Lloyd Lewis …

Plasty yng Nghymru o ddrama Rivals ar werth am £8m

Hoffech chi fyw mewn un o’r cartrefi moethus sydd i’w gweld ar gyfres ddiweddaraf Rivals …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Get my ad bar.