google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Cyfuniad o ffactorau’ wedi arwain at farwolaeth tu allan i ysbyty – cwest

50b946c0 58e5 11f0 9074 8989d8c97d87.jpg

Advertisements

Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Mrs Owen-Jones o Landrillo-yn-Rhos wedi cael ei tharo gan gar Audi llwyd oedd yn cael ei yrru gan Chloe Thelwell, nyrs yn yr ysbyty oedd yn mynd adref ar ôl gorffen ei shifft.

Dywedodd Ms Thelwell wrth yr heddlu ei bod ar ôl gadael y prif faes parcio yn yr ysbyty wedi troi tuag at y ffordd fawr, ac fe wnaeth gyfaddef iddi dorri’r gornel tra’n troi i’r dde ar y gyffordd.

Dywedodd mai dim ond 10-15mya oedd ei chyflymder, gyda’r terfyn cyflymder oedd yn cael ei gynghori ar dir yr ysbyty yn 10mya.

Disgrifiodd tystion sut y gwnaeth y nyrs, oedd mewn gwewyr mawr, ddweud dro ar ôl tro wrth bobl oedd yn ceisio helpu Mrs Owen-Jones: “Wnes i jest ddim ei gweld hi.”

Ond dywedodd un tyst, Dewi Wyn Williams, bod ffenestr flaen y car wedi niwlio’n llwyr, ac iddo feddwl nad oedd yn syndod iddi beidio gweld Mrs Owen-Jones gan na allai weld unrhywbeth drwy’r ffenestr.

Pan ofynnwyd iddi mewn cyfweliad gyda’r heddlu a oedd y ffenestr wedi niwlio, atebodd Ms Thelwell: “Dwi ddim yn meddwl hynny.”

Os y byddai hynny’n wir meddai, fyddai hi ddim wedi gallu gyrru allan o’r maes parcio.


BBC News

Views: 0

See also  Two appear in court over body of missing Cardiff woman

Check Also

Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las

Mae rhagor o artistiaid wedi eu cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni. BBC …

Aaron Ramsey: Mikel Arteta an inspiration as ex-Wales and Arsenal star eyes management

Ramsey has been part of Craig Bellamy’s Wales staff in an unofficial capacity in recent …

‘Hwb i’r economi a’r Gymraeg’ – beth fydd gwir waddol Eisteddfod yr Urdd Môn 2026?

Wrth i’r pebyll gael eu tynnu lawr ac i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
"panduan lengkap harga paving block langsung pabrik 2026 : hemat biaya dengan kualitas standar industri » thetaindomarga sm".