google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfieithu AI yn peryglu ‘rhan o gyfoeth ein hiaith’ – Rhys Iorwerth

Advertisements

Dywedodd Rhys Iorwerth, sy’n gweithio yn y maes ers bron i ddegawd, bod AI eisoes yn gallu rhoi cyfieithiadau “go gywir” i’r Gymraeg.

Ond ychwanegodd: “Ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn ddigon cyson gywir i rywun allu eu defnyddio mewn deunydd sy’n cael ei gyhoeddi.

“Ond, bosib nad ydan ni’n bell iawn o’r dydd hwnnw, o ran ‘cywirdeb’ o leia’.”

Er hynny, dywedodd fod “mwy i gyfieithu da na dim ond cywirdeb”.

“Mae’r cyfieithwyr gorau’n parchu teithi’r iaith – maen nhw’n greadigol, maen nhw’n deall eu cynulleidfa, ac maen nhw’n ymwybodol o naws testun,” meddai.

“Fy mhryder gwirioneddol i ydi y bydd cwsmeriaid, y bydd y cyhoedd, yn colli golwg ar hynny gan y bydd cyfieithiadau systemau AI yn ‘gwneud y tro’,” meddai.

Ychwanegodd fod “rhaid i ni dderbyn bod iaith yn newid o hyd”.

“Ond, os bydd AI yn disodli cyfieithwyr da o gig a gwaed yn llwyr, mi fydd ‘na fwy na bywoliaethau’n cael ei golli.

“Mi fydd rhan o gyfoeth ein hiaith ni’n cael ei golli hefyd – dwi’n eithaf siŵr o hynny.”


BBC News

Views: 0

See also  Nigel Farage names Lord Offord as Reform UK's Scottish leader

Check Also

Tonyrefail ice cream man hit with chimes noise complaint

An ice cream man has been hit with a noise complaint by someone who did …

Tribute to Brecon father killed in suspected biker gang violence

His family said he would “be loved and missed more than words can ever express”. …

Bonnie Tyler’s 80s hit spiked in Spotify streams during solar eclipse

Born Gaynor Hopkins in a council house in Neath, Tyler grew up with a love …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime