google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfarfod Llafur heb drafod y bleidlais o ddiffyg hyder

Mae’r BBC ar ddeall na wnaeth aelodau Llafur Senedd Cymru drafod digwyddiadau ddydd Mercher yn eu cyfarfod cyntaf ers hynny.

Fe wnaeth Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder ar ôl i ddau o aelodau’r blaid beidio â chymryd rhan oherwydd salwch.

Dywed ffynhonnell wrth BBC Cymru fod y cyfarfod, oedd yn canolbwyntio ar faniffesto Llafur, yn “swreal”.

Dywed un arall – a oedd yn gefnogol o Gething – mai’r unig bleidlais a gafodd ei thrafod oedd “y bleidlais ar 4 Gorffennaf”.

Dywedon nhw fod llawer o ffocws y cyfarfod “ar yr etholiad cyffredinol wrth i aelodau Llafur wybod fod yr agenda yn canolbwyntio ar gael gwared â’r Torïaid”.

Er hyn, fe wnaeth aelod gwahanol o’r blaid Lafur ddisgrifio’r cyfarfod fel un oedd yn dangos “byd gwahanol Llafur Cymru”, wrth Newyddion S4C.

Dywed ffynhonnell arall ei fod yn “pathetig”.


Source link

Advertisements

See also  Dan Thomas yw arweinydd Reform yng Nghymru

Check Also

Swansea City: John Toshack watches on as Vitor Matos’ table-toppers eye own history

Swansea’s next two fixtures – against last season’s play-off semi-finalists Millwall and promotion favourites West …

Man dies at scene of motorbike and car crash in Swansea

A man has died following a crash between a motorbike and a car in Swansea. …

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn y de

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a char yn Abertawe. Dywedodd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime