google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwmnïau dŵr i gydymffurfio â safonau iaith o Awst 2025

Wrth i’r safonau ddod yn berthnasol y tu hwnt i’r sector gyhoeddus, mae arbenigwr ar y Gymraeg ym myd busnes yn dweud bod mwy a mwy o gwmnïau preifat yn hyderus am ddefnyddio’r iaith.

“Dwi’n teimlo fod y byd busnes wedi newid dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf,” meddai Zoe Pritchard, ymgynghorydd arweiniol cwmni Lafan.

Mae Lafan yn cydweithio â chwmnïau Cymreig ac wedi sylweddoli ar newid mewn agweddau tuag at yr iaith.

“Mae ‘na lot yn fwy o fusnesau yn agored iddi hi,” meddai.

“Mae busnesau bendant yn gweld y budd, bellach.

“Maen nhw’n cydnabod bod llawer iawn o’u cwsmeriaid nhw yn siarad Cymraeg, mae’n gwneud y perthynas yna [gyda’r iaith] yn bwysig,” meddai Ms Pritchard.

Mae cwmnïau bach sy’n ddi-Gymraeg wedi mynd at Lafan am gymorth i wella’r arlwy Cymraeg, ac mae Ms Pritchard yn dweud bod angen i fusnesau mwya’r wlad arwain y ffordd.

“Os mae cwmnïau mawr yn cael eu gweld yn cydnabod y budd” o ddefnyddio’r Gymraeg bydd busnesau eraill yn sylweddoli “mae ‘na bendant werth iddi,” meddai.


Source link

Views: 0

See also  Gwent Police: Ex-PC tells court he used force in self-defence

Check Also

Cardiff set for multi-million pound shopping arcade revamp

Cardiff city centre is set for a multi-million pound shopping arcade revamp this summer. The …

Undebau’n beirniadu cynnig codiad cyflog i athrawon Cymru

Mae undebau addysg wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio cyd-fynd ag awgrym y corff annibynnol. Dywedodd …

Nations Championship: South Africa ring changes for Wales

World champions South Africa have made 10 changes to their starting side to face Wales …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Shane black suede bomber jacket.