google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Criwiau’n brwydro tân ar long yn nociau Casnewydd

Advertisements

Mae criwiau tân ar draws De Cymru’n ymateb i ddigwyddiad sy’n ymwneud â thân mawr ar long sydd wedi’i docio yng Nghasnewydd.

Fe gyrhaeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’r dociau am 05:38 fore Sul 26 Ebrill yn dilyn adroddiadau o dân ar long Nord Housten.

Roedd y llong yn cario tua 1,000 tunnell o fetel sgrap meddai’r gwasanaeth tân.

Mae nifer fawr o swyddogion wedi cael eu galw yno er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r tân drwy ddefnyddio jetiau a’i dargedu o uchder.

Ar hyn o bryd maen nhw wedi llwyddo amgylchynu’r tân ond mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i osgoi’r ardal.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill, gan gynnwys Associated British Ports, awdurdodau harbwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr heddlu a’r awdurdod lleol.

Pwysleisiodd y gwasanaeth tân nad oes unrhyw un nag unrhyw adeilad mewn perygl ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r criwiau barhau ar y safle wrth i’r gwasanaethau wneud trefniadau i gludo nwyddau oddi ar y llong.


BBC News

Views: 0

See also  Reform ddim am dynnu cyllid o Fangor dros ddadl am ryddid barn - gwleidydd

Check Also

I own 20 axolotls – people need to know they're not easy to look after

Emma Honeyfield bought her daughter an axolotl for her birthday then quickly fell in love …

Cardiff City celebrate League One promotion and aim for Premier League

Barry-Murphy struck a more measured note amid the euphoria. “Ollie’s prone to getting carried away …

Newport County news: The 110-minute game that may have rescued Christian Fuchs’ Exiles

And Newport did. County could not go down this weekend, but they could have been …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Yani kullanıcılar güncel cassinox giriş adresini tarayıcılarına yazar ve doğrudan erişim sağlar.